Cyfraith teulu – T.O.L.A.T.A
Gall aelodau’n Tîm Teulu ddarparu cyngor a chymorth cynhwysfawr ar bob cam o anghydfodau rhwng cydberchnogion (neu ddarpar gydberchnogion) eiddo a thir boed ar gyfer Hawlwyr a Diffynyddion.
Mae ein gwasanaeth yn cynnwys cynghori (ar bapur neu mewn cynhadledd) ym mhob cam o anghydfod, drafftio ac wrth gwrs, eiriolaeth os bydd achos yn dechrau, gan gynnwys mewn gwrandawiadau cyllideb costau a gwrandawiadau ymddiddanol eraill.
Mae gan ein haelodau brofiad wrth weithio gyda chyfreithwyr a allai fod yn anghyfarwydd â’r maes hwn o’r gyfraith yn ogystal â gyda chyfreithwyr a chanddynt arbenigedd yn y maes hwn ac maen nhw’n ystyriol drwy’r amser o ganlyniadau costau’r fath anghydfodau a manteision datrys yn gynnar os ydy hynny’n bosibl.
Cynigia Siambrau Angel gyfleusterau proffesiynol a modern i chi yng nghanol datblygiad marina Abertawe ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd setlo ar fwrdd crwn/cynadleddau ar y cyd a fideo-gynadleddau ynghyd â lle parcio i’n cleientiaid proffesiynol a lleyg trwy gytundeb ymlaen llaw.
Gall rhai aelodau’n Tîm Teulu gynghori yn y maes hwn ar sail Mynediad Cyhoeddus neu Uniongyrchol. Cysylltwch â Marc Baker, y clerc teulu os hoffech drafod hyn.