Cyfraith teulu
Mae gan Sara ymarfer cyfraith teulu prysur, gan dderbyn cyfarwyddiadau mewn trefniadau cyfraith breifat a chyhoeddus. Yn aml, mae Sara o flaen y llys teuluol ond mae hefyd wedi cynrychioli Mam, a fu’n ymgyfreithwraig drosti’i hun wrth apelio’n llwyddiannus i Farnwr Cylchdaith. Mynega Sara ddiddordeb yng ngwaith y llys amddiffyn ar ôl cymryd rhan mewn rhoi hyfforddiant i Gyngor Sir Abertawe a derbynia gyfarwyddyd yn y maes hwn.
Caiff Sara gyfarwyddyd yn bennaf mewn achosion cyfraith teulu preifat ac felly mae ganddi gyfoeth o brofiad mewn cynrychioli Mamau a Thadau fel ymgeiswyr ac ymatebwyr. Yn ogystal, mae Sara’n delio â cheisiadau peidio ag ymyrryd.
Cyfraith trosedd
Mae Sara’n ymarfer cyfraith trosedd yn Llys y Goron a’r Llys Ynadon. Mae Sara wedi cynnal achosion prawf o flaen rheithgor yn Llys y Goron ar sawl achlysur i Wasanaeth Erlyn y Goron ac i’r diffynyddion.
Mae Sara wedi erlyn sawl achos prawf i Wasanaeth Erlyn y Goron yn y Llys Ynadon ac wedi amddiffyn cleientiaid sydd wedi’u cyhuddo o ymosodiad cyffredin, lladrad ac aflonyddwch. Mae Sara wedi amddiffyn gweithiwr gofal iechyd yn flaenorol a gafodd ei gyhuddo o ymosod ar glaf yn ei ofal. Ar ôl achos prawf llwyddiannus, cafwyd y diffynnydd yn ddieuog.
Mae Sara yn Erlynydd Gradd 1 ar banel Gwasanaeth Erlyn y Goron
Cyfraith sifil
Cyfraith reoleiddiol
Caiff Sara gyfarwyddyd rheolaidd i ymddangos o flaen paneli disgyblu NMC a HCPC. Mae Sara wedi cynrychioli parafeddygon, ymwelwyr iechyd a nyrsys wedi’u cyhuddo o amrywiaeth o honiadau yn amrywio o wallau meddyginiaeth i faterion galluedd. Mae Sara hefyd yn cynryshioli Cyngor y Gweithlu Addysg mewn gwrandawiadau cymhwyster i ymarfer.
Ymchwiliadau
Caiff Sara gyfarwyddyd yn aml i ymddangos ar ran partïon cyfrannog mewn cwestau, yn Abertawe a thu hwnt ac mae ganddi brofiad o gynrychioli teuluoedd yr ymadawedig a’r heddlu.