Cyfraith sifil
Mae’r Tîm Sifil yn cynnwys 16 ymarferwr y mae blynyddoedd eu galwad yn amrywio o 1987 - 2013.
Mae Siambrau Angel yn adnabyddus iawn ar raddfa leol ac yn mwynhau enw gwych am ei wasanaeth da i gleientiaid proffesiynol a lleyg fel ei gilydd, gan ddarparu cyfrinachedd llwyr i gleientiaid.
Gall y Tîm Sifil fanteisio ar gyfleusterau cynadledda modern, mawr ac o’r radd flaenaf. Mae’r cyfleusterau’n hynod dda ar gyfer cyfarfodydd setlo ar y cyd ac anghenion cynadledda mwy o faint eraill, gan gynnwys seminarau.
Mae aelodau’r tîm yn ymgymryd â gwaith sifil ar draws sbectrwm yr Uchel Lys, y Llys Sirol, Tribiwnlysoedd, Cwestau, dull amgen o ddatrys anghydfod a Chyflafareddu. Rydym yn delio ag achosion llwybr amryfal, llwybr cyflym a hawliadau bach yn gyson.
Mae aelodau’r tîm yn ymgymryd â gwaith yn rheolaidd dan yswirwyr costau cyfreithiol, CFA a chyfarwyddiadau preifat.
Ein nod
At ei gilydd, bydd y Tîm Sifil yn dychwelyd gwaith papur ymhen 14 diwrnod o’i dderbyn. Os oes anawsterau gyda’r amserlen hon, bydd ein cyfreithwyr wedi’u cyfarwyddo yn cael gwybod yn uniongyrchol, trwy gwnsler, cyn y dyddiad cau. Gellir derbyn a dychwelyd cyfarwyddiadau’n electronig.
Gallwn gynnig tîm effeithlon, ymarferol a chystadleuol o ymarferwyr sifil profiadol sy’n gweithio o gyfleusterau modern o’r radd flaenaf. Bydd y ffioedd yn cael eu cytuno gyda’r clercod ar sail wedi’i threfnu ymlaen llaw a gellir dyfynnu cyfradd fesul awr neu ffi sefydlog trwy drafodaeth fel y bo’n ofynnol.
Mae’r Tîm Sifil yn cynnwys 4 siaradwr Cymraeg rhugl.