Cyfraith teulu
Cyfraith Breifat
Mae gan Joanna ymarfer cyfraith teulu prysur, gan dderbyn cyfarwyddyd mewn achosion cyfraith breifat a chyhoeddus ac mae wedi ymddangos o flaen pob lefel o’r Farnwriaeth yn y Llys Sirol.
Gweithreda Joanna mewn amrywiaeth o wrandawiadau yn ymwneud â cheisiadau am Orchmynion Trefniadau Plant, gan gynnwys FHDRA, gwrandawiadau canfod ffeithiau a gwrandawiadau terfynol. Fe’i cyfarwyddir yn rheolaidd mewn materion sy’n ymwneud â honiadau o drais domestig a cham-drin plant.
Mae Joanna wedi gweithredu ar ran Ceiswyr ac Atebwyr gan gynnwys rhieni ac aelodau ehangach y teulu.
Mae Joanna hefyd wedi gwneud ac ymateb i geisiadau am orchmynion i gadw rhag ymyrryd a meddiannaeth.
Mae Joanna hefyd yn brofiadol wrth ddelio â materion llareiddiad ategol gan gynnwys penodiadau cyfarwyddyd cyntaf (FDA) a gwrandawiadau datrys anghydfodau.
Cyfraith Gyhoeddus
Mae Joanna yn cynrychioli rhieni mewn ystod o faterion cyfraith gyhoeddus gan gynnwys ceisiadau gofal interim, gwrandawiadau rheoli achosion, ceisiadau C2 a chynnal gwrandawiadau penderfyniadau.
Cyfraith trosedd
Caiff Joanna gyfarwyddyd rheolaidd i erlyn ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron yn y Llysoedd Ynadon ac Ieuenctid. Fe’i cyfarwyddir yn rheolaidd i ymddangos ar ran yr amddiffyniad yn y Llys Ynadon mewn ceisiadau am fechnïaeth, dedfrydu ac achosion.
Cyfarwyddir Joanna hefyd yn rheolaidd i wneud ceisiadau am Orchmynion Amddiffyn rhag Trais Domestig, Gorchmynion Amddiffyn Cymunedol a Gorchmynion Atal Niwed Rhywiol ar ran yr heddlu.
Cyfraith sifil
Mae Joanna yn cynrychioli Hawlyddion a Diffynyddion ym maes achosion mân ddyledion a thrac carlam gan gynnwys damweiniau ffyrdd ac anghydfodau anafiadau personol.