Cyfraith teulu – Rhwymedi ariannol
Arbeniga aelodau’n Tîm Teuluol yn holl feysydd anghydfodau priodasol, partneriaeth sifil, cydbreswylio ac ariannol teuluol eraill, gan amrywio o achosion gwerth cymedrol i werth uchel, gan gynnwys:
- ysgariad, ymwahaniad cyfreithiol a diddymu partneriaeth sifil
- cytundebau cyn priodi
- rhwymedi ariannol wrth ysgaru neu ddiddymu partneriaethau sifil
- anghydfodau ariannol ac eiddo rhwng cydbreswylwyr
- hawliadau sy’n cynnwys trydydd partïon (Ymyrwyr)
- hawliadau dan Atodlen 1 Deddf Plant 1989
- hawliadau dan y Ddeddf Etifeddu (Darparu i Deulu a Dibynyddion) 1975
Cynigia Siambrau Angel gyfleusterau proffesiynol a modern i chi yng nghalon datblygiad Marina Abertawe ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd setlo ar Fwrdd Crwn/cynadleddau a fideo-gynadleddau ar y cyd ynghyd â lle parcio i gleientiaid proffesiynol a lleyg trwy gytundeb ymlaen llaw.
Gall rhai aelodau o’n Tîm Teuluol gynghori ar y maes hwn ar sail Mynediad Cyhoeddus neu Uniongyrchol. Cysylltwch â Marc Baker, y clerc teulu os hoffech drafod hyn.
Meysydd ymarfer