Cyfraith sifil - Cyflogaeth
Mae ein bargyfreithwyr cyflogaeth yn gweithredu ar ran cyflogwyr a gweithwyr, gan amrywio o weithwyr unigol a chyfarwyddwyr i gwmnïau a sefydliadau bach, canolig a mawr.
Mae’r aelodau’n brofiadol ym mhob agwedd ar gyfraith cyflogaeth gan gynnwys:
- Diswyddo annheg ac anghyfiawn
- Gwahaniaethu
- Cyflog cyfartal
- Cyflogau (gan gynnwys yr isafswm cyflog a chyflog gwyliau)
- Chwythu’r chwiban
- Trosglwyddo ymgymeriadau
- Diswyddo
- Torri cyfrinachedd
- Atal masnach
Darparwn wasanaethau eiriolaeth mewn Tribiwnlysoedd Cyflogaeth, y Llysoedd Sirol a’r Uchel Lys yn ogystal â llysoedd apêl. Trwy’n gwasanaethau ymgynghorol, gall y rhai sydd angen cyngor ei gael ar unrhyw gam yn y broses.
Meysydd ymarfer