Cyfraith teulu
Canolbwyntia ymarfer Kate ar achosion cyfraith gyhoeddus a phreifat yn ymwneud â phlant ym mhob haen o’r llys, gan gynnwys materion dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.
Mae Kate wedi cynnal achosion yn ymwneud ag anafiadau i blant, honiadau o gam-drin rhywiol sy’n cynnwys achwynwyr ar ffurf oedolion a phlant ac mae wedi gweithredu dros Awdurdodau Lleol, rhieni, plant, aelodau estynedig o’r teulu ac ymyrwyr o fewn yr achosion hynny.
Yn ogystal, mae Kate wedi ymgymryd â gwaith yn yr Uchel Lys yn ymwneud â cheisiadau i dynnu plant i ffwrdd yn barhaol o awdurdodaeth Cymru a Lloegr ac i Wledydd Confensiwn Hague a Gwledydd Confensiwn Heb fod yn Hague.
Derbynia Kate gyfarwyddiadau’n gyson mewn perthynas â materion ariannol a TOLATA. Mae hi hefyd yn derbyn cyfarwyddiadau gan Awdurdodau Addysg a’r Llys Amddiffyn.
Mae Kate yn cadw i fyny’n gyson â materion cyfreithiol amlwg ac yn darparu seminarau DPP ynghyd ag aelodau eraill o’r tîm teulu yn Siambrau Angel.